Saturday 11 December 2010

Mis Rhagfyr 12, 2010

Nes i ddim moyn neud y blog yng Nghymrâg, gweud y gwir.  Wi 'di treio dysgu Cymrâg am spel nawr ond sai'n gallu ysgrifennu Cymrâg ffurfiol o gwbl.

Ond, wythnos diwetha, darllenes i lyfr gan Eirwyn Dosha Pontshan.  Ro'n i wedi clywed ei recordiad e o'r blaen a joio fe lot.  Ta beth, dechres i ddarllen y llyfr a ro'n i'n eitha syn.

Ro'dd y publishers yn cadw'r iaith Eirwyn i gyd.  Cadw yr iaith Cymrâg Gorllewin i gyd... idiome, sillafu... popeth!

Duw, duw... Wi 'di byth weld y llyfr defnyddio'r iaith naturiol.  Er enghraifft, treies i darllen Harri Potter yng Nghymrâg ond ma'r cyfieithwraig wedi colli'r pwynt.  Ro'dd hi'n defnyddio iaith ffurfiol... ond pa plentyn sy'n mynd darllen hynny?  Dyna'r peth 'da Harry Potter yn Sisneg.  Iaith eitha syml, ond cyffrous iawn ar yr un pryd.  Dyna'r rheswm cymaint o blant yn darllen y peth.

Wel, na fe...
Wi'n teimlo well nawr am sgwennu yn yr iaith llafar.

Felly, wrth gwrs os chi'n darllen y blog a gallu i fixo pethe... wel, wi'n angen lot o help 'da'r iaith, gweud y gwir.  Felly, teimlwch yn rhydd i helpu fi.  Hynny'w, helpu fi gyda'r iaith Cymrâg Gorllewin.  T'mod?

Oherwydd bydda i'n treio cadw'r iaith naturiol... sillafu a phopeth...

Iawn?  Iawn.

Falle, dylwn i sgwennu bach am Eirwyn Dosha Pontshan.  Dyma ychydig iawn ar y we am Eirwyn.

Iawn, yn y blog nesa, bydda i'n sgwennu rhywbeth am Eirwyn.  Falle wythnos nesa.

Da bo.

Ceri "Gwalior"