Thursday 25 August 2011

pethe

Rwy di bod yn teitho rownd Cymru lot yn diweddar.  Fi moyn sgrifennu rhywbeth ond sai'n siwr beth i weud.  Weithiau, wy'n gallu deall lot o Gymraeg, weithiau dim byd.  Mae'n dibynnu ar y sefyllfa, ar y acen, ar y person...  a mae'n anodd iawn i ffurfio brawddegau cywir.  Weithiau, wi'n teimlo twp iawn... ond peth pwysica yw trial.  T'wel?  Fi'n siarad Cymraeg ofnadw nawr ond wi'n treio o leia.  Dyna'r peth.

Wi di bod yn chwarae lot o dwmpathe.  Rhai da "Bethlehem Village Band", rhai da "A Llawer Mwy".  Wi'n mynd yn chwarae bedydd da Elsa y penwythnos ma.  Wi'n rili edrych ymlan i'r peth.  Elsa yw'r gorau.  Clefar yw hi.  Clefar iawn.  Rhwyfath o athrylith neu rhwybeth.  Ma hi di bod mwy dawel y wythnos ma.  Sai'n siwr beth sy'n bod.  Ta beth, ma hi'n person anhygoel a cerddor arbennig o dda.

Wi'n gweld eisiau Gwil, ofnadw.  Ma fe'n brysur dros ben.  Wedyn, ma ei gariad e, Ana, yn gadael Cymru.  Rhywbeth trist... ond siwr o fod, bydd yn profiad da... wel, profiad... Ta beth, ma Gwil wedi teitho lawr i Ferthyr er mwyn gweld hi.  Gobeitho bydd popeth yn iawn.

Wi'n colli chwarae gyda nhw... a Neti.  Fi di bod yn darllen am 'y band cymreig gwreiddiol' neu 'y cambrian minstrels gwreiddiol'.  Buon nhw'n byw yn y 1600's.  Robert Peilin Telynor, Lewis Penmon Crythor, Dic Pibydd a weithiau (cyn y dadl) Tomos Coety Cantor.  Wy'n gallu dychmygu nhw... teitho rownd Cymru gyda'i gilydd.  Breuddwyd.  Gweud y gwir, fi di bod yn gweitho (unwaith eto) ar y llawysgrif "Peroriaeth".  Hen cerddoriaeth a diddorol ofnadw.  Rhwyfath o obsession, t'mod?  Rwy am astudio'r llawysgrif mwy ac ail-greu y cerddoriaeth gyda offeryn arall, gyda band.

Wi'n mynd i chwarae da Julie ar y Dydd Sul ma.  Bydd yn profiad wych, siwr o fod.  Wi wrth fy modd pan fi'n chwarae da Julie.  Ma hi'n gwd iawn, iawn.  Fy hoff cantores yw hi.  Ma hi di bod yn gweitho ar miwsig gwreiddiol.  Wi'n balch iawn i chwarae da hi.

Ro'n i'n hango mas 'da fy ffrindiau Celtaidd dros y penwythnos diwetha.  Cerdded er mwyn codi arian i'r Urdd (Trefin i Dy Dewi).  Ro'dd hi'n bwrw glaw ofnadw.  Wlyb stêcs!  Wel, ro'dd e'n lot o sport.  Ma grwp yn hyfryd, pobl wych, t'mod.  A ro'n i'n siarad lot o Gymrâg.  Wedyn, ro'dd yn cyfle da i ymweld Ty Dewi unwaith eto.  Joies i'r penwythnos.  Ma pobl yn cyfeillgar, croesawgar, deallus... ma'n nis iawn.  Wi'n dwlu'r grwp.

Wel, na fe.  Fi di bod yn mynd i'r gwersi Cymraeg dros yr Haf.  Roedd e'n wych ond fi 'di blino nawr.


Ma flin da fi, wi di bod yn ramblo...


Oce, gobeitho na i synnwyr y tro nesa.  Gobitho, bydda i'n sgrifennu brawddegau cywir y tro nesa.


Da bo.



Tuesday 24 May 2011

abercych

Wi 'di anghofio llawer am y daith i Canada, felly, ma'n gwell da fi swennau am rhywbeth arall.  Wel... nes i chwarae gig dros y penwythnos ma.

Ro'n i'n braidd yn nerfys, gweud y gwir.  Ond heb rheswm.  Nes i chwarae gyda Elsa a Nettie.  Cerddorion anhygoel ydyn nhw.  Nethon nhw swnio yn wych!  Ro'n ni'n rhannu'r gig 'da Julie, Ceri "Ffliwt", Martin a Sille.  Wrth gwrs, ro'n nhw'n ffantastig dros ben.  Ma Simon wedi trefnu'r twmpath.  Ma fe 'di creu rhwybeth arbennig a bendigedig.  Oherwydd, ma fe'n cefnogi cymdeithas y pentre, trwy helpu pobl gwahanol cymysgu.  Rhwybeth unigryw yn y byd 'ma.

Wi'n siwr y bydda i'n swennu am y peth yn Sisneg ond wi moyn treio yng Nghymrâg hefyd.

Dyna'r peth.  Nid cerddor grêt ydw i.  Ond wi'n gallu clywed pethe yn y cerddoriaeth.  Dyna fy nhalent i.  Pan wi'n clywed y miwsig, wi'n gallu gweld i fewn i bobl.  I mewn i'w calon nhw.  Swnio od, wi'n gwybod.  Ond wi'n whilia y gwir nawr.  Wi'n gallu clywed y bwriad yn y cerddoriaeth.  Dyna'r rheswm wi'n wrth fy modd i chwarae gyda Julie, Ceri "Ffliwt", Martin, Sille, Diarmuid, Jason a phobl fel na... yr un peth 'da Elsa, Nettie a Gwil.  Oherwydd bod nhw'n pobl hardd iawn.  Ma cyswllt unigryw arbennig rhyngddon ni.

Maen nhw'n i gyd mwy creadigol, mwy onest, mwy mynegiadol, mwy dawnus, mwy prydferth... anodd i ddisgrifo.

Cymaint o gerddorion yn stiff iawn fel pren marw.  Ond mae fy ffrindiau yn hollol gwahanol.  Maen nhw'n byw.  Coed byw ydyn nhw.  Dyna'r gwahaniaeth.


Cynharach, ma grwp miwsig Aber wedi cyflogi athro o'r gogledd er mwyn dysgu alawon iddyn nhw.  Camgymeriad go iawn.  Dylen nhw bod wedi chwilio o'u blaen nhw a chyflogi Gwil.  Meistr cerddoriaeth Cymreig yw Gwil.  Os dyn nhw ddim yn gallu sylweddoli'r ffaith 'ma, heb cyfle ydyn nhw.


Ta beth, rodd y twmpath llwyddianus iawn.  Ro'dd llawer o bobl yn y neuadd.  Rodd y vibe yn anhygoel iawn.  Joies i'r gig mas draw!


Da bo.

Friday 11 March 2011

Taith i Ganada, Rhan III (Ionawr 1-8)

Ta beth.  Rodd y parti blwyddyn newydd eitha dawel.  Y dydd nesa, es i Edmonton i weld fy ffrindiau Don ac Audrey.  Wi'n cofio ein bod ni'n yfed eitha lot.  Ro'dd Don wedi meddwi dros ben!  Ro'dd e'n eitha doniol ond o'r cwmpas pedwar yn y bore, ath e belligerent.

Ma Don wedi bod yn gweitho eitha caled ar y CD newydd.  Mae e wedi bod yn treio creu bach o scene yn y lle a creu band jazz go iawn.  Cymaint o band jazz yw thrown together, heb ymarfer.  Fel arfer, swnio eitha drwg.  Ond, ma Don yn creu rhwybeth arbennig, gweud y gwir.  Chwarae teg, t'mod?

Ma fe di gweitho gyda rhai o chwaraewyr gorau yn Alberta.  Wi'n mor falch i clywed hynny.

Thursday 17 February 2011

Taith i Ganada, Rhan II (Rhagfyr 24-31)

Ar diwedd, cyrhaeddes i Canada Nadolig eve.  Nath fy rhieni i cwrdd a fi yn y maes awyren.  Gyrron ni syth i'r job yn yr eglwys.  Ro'n i'n chwarae am y midnight mass yn yr eglwys lleol.  Ath popeth yn iawn.  Rodd eitha nis i weld pobl o'r hen dyddiau.  Buodd fy chwaer fan na hefyd.  Dath hi o Vancouver i Stettler.

Roedd Nadolig yn hyfryd... gyda coeden Nadolig, anrhegion, bwyd.  Falle, gormod o deledu.  Sai'n lico'r teledu ar hyn o bryd.  Nathon ni "crackers" Nadolig a gwiso'r het papur.

Yr un peth y dydd nesa.  Ro'n ni'n jyst ymlacio, bwyta ac edrych ar y teledu.  Yn bendant, gormod o deledu.  Ond ta beth, ro'dd eitha da i ymweld â fy nheulu i.

Wedyn, ethon ni i Edmonton i weld Elissa.  Ma hi'n tyfu lan lot.  Ma hi'n bron yn dal na fi.  Ma hi'n mor hyderus a siarad mwy nawr.  Wrth gwrs, ma hi'n actio fel llefnyn nawr.  Eitha doniol.  Wedyn, ro'dd rhaid i ni fynd i'r maes awyren unwaith eto.  Ro'dd Kathryn yn mynd yn ol i Vancouver.  Ymweliad eitha glou.  Ond rodd hi'n brysur iawn felly digon teg.

Ar y ffordd nol i Stettler, ro'n ni'n mewn damwain yn y car.  Reit, dath y carw o'r flan y car... dim cyfle o gwbl i stopio... felly, taro fe yn llwyr.  Lwcus, ro'dd fy nhad yn gyrru y car oherwydd nath e stopio'r car eitha glou a cadw'r car ar y heol.  Ro'dd y car yn difetha yn lwyr.  Difetha!  Ath fy nhad a fi i edrych am y carw ond cyn i ni ffeindo'r creadur gwedodd fy mam... "Ma'r car yn llosgi."

Nes i edrych ar fy nhad, "Beth gwedodd hi?"  Nes i ddim yn credu wir.

"Ma'r car yn LLOSGI!!!"

Duw, rhedon ni nol i'r car a tynnu popeth mas o'r trunk eitha glou.  Nesa, ron ni'n actio twp iawn.  Treion ni rhoi y tân mas... wrth taflu eira ar y car.  Wrth gwrs, ro'dd e'n twp oherwydd ro'dd e'n bosib bydde y car yn ffrwydro.  Ond, dim problem mawr.  Wi di galw y firestation a cyrhaeddon nhw eitha glou.

Nathon ni lifft nol i Stettler 'da bachgen nis iawn mewn lorri.
Wrth gwrs, ro'n ni'n mewn shock tamed bach.  Braidd yn straenol, yn bendant.

Do'n i ddim yn cofio y ddiwrnode nesa yn dda.  Falle, ymweles i fy ffrindiau Don ac Audrey... falle.  Na, doedd dim car da ni.  Wel, ta beth, mwy amdanyn nhw hwyrach.

Wrth gwrs, gweles i fy hen gath.  Ma hi'n mor doniol!  Ma hi'n am beth neud pethe eitha od.  Collwen yw ei henw hi.

Ron i'n i fod i chwarae nos galan da'r superband ond gath y gig ei cancelo e.  Drueni mawr.  Gobeitho neud y gig da'r Shadows ond dim lwc o gwbl.  O wel, ta beth.

Y tro nesa, gigs go iawn...

Da bo.






Sunday 30 January 2011

Taith i Ganada, Rhan I (Rhagfyr 18-24)

Wel, wi di jyst dod yn ol o Canada.  Wrth gwrs, wi'n eitha jet-laggo nawr.

Wi'n mor hapus i fod yn ol yng Ngymru, gweud y gwir.

R'on i'n mynd i sgwennu am Eirwyn Dosha Pontshan ond roedd fy nhaith i yn ofnadw!  Felly, na' i sgwenna amdano.

Dyma'r hanes...

Rhan I
R'on i'n jyst gwybod... Ro'dd teimladau rhyfedd 'da fi.  R'on i'n eitha siwr bydde'r taith yn ofnadw.  R'on i'n gywir!

R'on i'n i fod i gael lifft i Lundain 'da Elsa ond wrth gwrs, y noson cyn i fi fynd, ro'dd hi'n bwrw eira ofnadw.  Dim yn dda o gwbl.  Do'dd Elsa ddim yn gallu gadael Cei Newydd.

Felly, y dydd nesa, ro'dd rhaid i mi dal y trên.  Arferol, dyw e ddim problem i ddal y trên ond ro'dd gormod o bobl yn aros am y trên a dim ond trên bach.  Problem mawr arall oherwydd r'on i'n cario y delyn ('da flight case - pwyso tua 70lbs), trombone a bag cyfrifiadur.

R'odd y trên yn llawn yn llwyr.  R'odd pobl gwasgu mewn fel sardines.  Choc y bloc!  R'on i'n siwr fy mod i ddim yn fito mewn y trên... ond nes i cwrdd cwbl o bobl eitha doniol... a wedi meddwi.  Gweudon nhw wrtha i, "dim problem, scwisho mewn!"

Wel, cyrhaeddon ni Shrewsbury a ro'dd y gyrrwr trên ffili cario ymlan!  Ro'dd e'n quito a dim gyrrwr arall, felly ro'dd rhaid i mi ffeindo trên newydd.  Ro'dd e'n mor anodd yn y byd i cario'r popeth trwy'r gorsaf trên.  Ro'dd e'n peth gwaetha yn y byd!  (...tan cyrhaeddes i yn Heathrow).

Ffeindes i trên newydd i Birmingham.  Ond pan cyrhaeddes i fan na, doedd y trên i Lundain ddim yn rhedeg.  Lwcus iawn, oherwydd talodd y cwmni trên am y tacsi i Reading.  Eitha agos i Heathrow.  Arhoses i mewn hotel yn Reading y noson 'na.

Dirwnod nesa, ces i lifft i Heathrow.  Wrth gwrs, ro'dd Heathrow yn dwl.  Ro'dd llawer o bobl pobman. Ta beth, checkes i gyda Air Canada... dim problem.

Ond, gwylies i'r bord ehedfa, aros am yr iêt ehedfa... ac aros ac aros ...ac aros.  Ro'dd yr ehedfa yn chwe awr yn hwyr!  Yn y diwedd, symudon nhw yr ehedfa i'r dydd nesa.

Gwedodd Air Canada, "dim problem.  Cysgwch chi yma, o'r flan yr iêt."  Eitha nis oherwydd, ro'dd llawer o le.  Ond tua hanner wedi deg, a'th y staff Heathrow o'r cwmpas a gwedon nhw wrthon ni i symud m'as, i mewn i'r rhan check-in.  Duw, eitha drwg.  R'odd merch feichiog fan na.  Dechrodd hi crio.  Duw, do'dd y staff ddim yn helpu hi o gwbl.  Gofenes i wrthi hi os hi moyn help.  Ochneidiodd hi ond gwedodd hi ei bod hi'n iawn.

Ta beth, es i mas i'r lolfa check-in.  Eitha hurt!  Eitha chwerthinllyd!  Ro'dd y maes awyren yn edrych fel refugee camp.  Ro'dd pobl yn cysgu pobman!  Hefyd, eitha oer fanna.  Eitha anghyfforddus.  Wel, gweud y gwir, anghyffordus ofnadw iawn iawn.  Falle, tua tri o'r gloch yn y bore, da'th cwbl o bobl â blanced emergency.  Tin foil, fel y space shuttle.

Ro'dd bob le yn covero gyda pobl, covero gyda lliw arian.  Gweles i cylch o'r trolleys 'da pobl yn y canol, cysgu.  Dim bwyd yn wir.  Eitha cachu.

Reit, dydd nesa, doedd neb yn gweitho o gwbl.  Ble mae'r staff maes awyren?  Falle, r'on nhw meddwl bydde'r eira diflannu ar ei hunan.  Do'dd neb ddim yn gwybod beth odd yn digwydd.  O'r diwedd, nath Air Canada cyhoeddiad, gâth yr ehedfa eu cancelo nhw.

Wel, rhaid i mi galw Air Canada i cael ehedfa newydd.  Mwy lwc drwg.  Mewn pum dydd o'dd yr ehedfa nesa. Un noson arall, r'on ni wedi blino (sai'n ifanc yn wir), felly ffeindes i hotel ar-lein.  Eitha rhad, gweud y gwir.

Ar y fwrdd i'r hotel, torrodd y strap ar fy mag cyfrifiadur.  Ro'dd y cyfridiadur eitha beat-up ond gweithodd e o hyd.

Ro'dd y hotel yn llawn iawn.  Ro'dd pobl pobman i trio ffeindo ystafell.  Ar ol i fi checko yn yr hotel, sylwes i bod yr hotel yn codi pris gan pump waith.  Ofnadw am y pobl eraill.  Dim yn teg o gwbl!

Gweithes i ar y fideo fy nhad tra bod yn yr hotel.  R'on i wedi cyfweld fy Nhad am y hen stroriau Llangranog... yng Nghymraeg, wrth gwrs.  Nes i rhoi cerddoriaeth gyda'r fideo.  Pethe fel na.

Wel, dechreuodd y daith eitha cachu ond ro'dd gobaith da fi... yn sicr, bydde popeth yn gwella...

Anfodus, bydde lwc drwg yn cario ymla'n.

Y tro nesa, teithio o gwmpas Nghanada.


Da bo.

Ceri "Gwal"