Sunday 30 January 2011

Taith i Ganada, Rhan I (Rhagfyr 18-24)

Wel, wi di jyst dod yn ol o Canada.  Wrth gwrs, wi'n eitha jet-laggo nawr.

Wi'n mor hapus i fod yn ol yng Ngymru, gweud y gwir.

R'on i'n mynd i sgwennu am Eirwyn Dosha Pontshan ond roedd fy nhaith i yn ofnadw!  Felly, na' i sgwenna amdano.

Dyma'r hanes...

Rhan I
R'on i'n jyst gwybod... Ro'dd teimladau rhyfedd 'da fi.  R'on i'n eitha siwr bydde'r taith yn ofnadw.  R'on i'n gywir!

R'on i'n i fod i gael lifft i Lundain 'da Elsa ond wrth gwrs, y noson cyn i fi fynd, ro'dd hi'n bwrw eira ofnadw.  Dim yn dda o gwbl.  Do'dd Elsa ddim yn gallu gadael Cei Newydd.

Felly, y dydd nesa, ro'dd rhaid i mi dal y trên.  Arferol, dyw e ddim problem i ddal y trên ond ro'dd gormod o bobl yn aros am y trên a dim ond trên bach.  Problem mawr arall oherwydd r'on i'n cario y delyn ('da flight case - pwyso tua 70lbs), trombone a bag cyfrifiadur.

R'odd y trên yn llawn yn llwyr.  R'odd pobl gwasgu mewn fel sardines.  Choc y bloc!  R'on i'n siwr fy mod i ddim yn fito mewn y trên... ond nes i cwrdd cwbl o bobl eitha doniol... a wedi meddwi.  Gweudon nhw wrtha i, "dim problem, scwisho mewn!"

Wel, cyrhaeddon ni Shrewsbury a ro'dd y gyrrwr trên ffili cario ymlan!  Ro'dd e'n quito a dim gyrrwr arall, felly ro'dd rhaid i mi ffeindo trên newydd.  Ro'dd e'n mor anodd yn y byd i cario'r popeth trwy'r gorsaf trên.  Ro'dd e'n peth gwaetha yn y byd!  (...tan cyrhaeddes i yn Heathrow).

Ffeindes i trên newydd i Birmingham.  Ond pan cyrhaeddes i fan na, doedd y trên i Lundain ddim yn rhedeg.  Lwcus iawn, oherwydd talodd y cwmni trên am y tacsi i Reading.  Eitha agos i Heathrow.  Arhoses i mewn hotel yn Reading y noson 'na.

Dirwnod nesa, ces i lifft i Heathrow.  Wrth gwrs, ro'dd Heathrow yn dwl.  Ro'dd llawer o bobl pobman. Ta beth, checkes i gyda Air Canada... dim problem.

Ond, gwylies i'r bord ehedfa, aros am yr iêt ehedfa... ac aros ac aros ...ac aros.  Ro'dd yr ehedfa yn chwe awr yn hwyr!  Yn y diwedd, symudon nhw yr ehedfa i'r dydd nesa.

Gwedodd Air Canada, "dim problem.  Cysgwch chi yma, o'r flan yr iêt."  Eitha nis oherwydd, ro'dd llawer o le.  Ond tua hanner wedi deg, a'th y staff Heathrow o'r cwmpas a gwedon nhw wrthon ni i symud m'as, i mewn i'r rhan check-in.  Duw, eitha drwg.  R'odd merch feichiog fan na.  Dechrodd hi crio.  Duw, do'dd y staff ddim yn helpu hi o gwbl.  Gofenes i wrthi hi os hi moyn help.  Ochneidiodd hi ond gwedodd hi ei bod hi'n iawn.

Ta beth, es i mas i'r lolfa check-in.  Eitha hurt!  Eitha chwerthinllyd!  Ro'dd y maes awyren yn edrych fel refugee camp.  Ro'dd pobl yn cysgu pobman!  Hefyd, eitha oer fanna.  Eitha anghyfforddus.  Wel, gweud y gwir, anghyffordus ofnadw iawn iawn.  Falle, tua tri o'r gloch yn y bore, da'th cwbl o bobl â blanced emergency.  Tin foil, fel y space shuttle.

Ro'dd bob le yn covero gyda pobl, covero gyda lliw arian.  Gweles i cylch o'r trolleys 'da pobl yn y canol, cysgu.  Dim bwyd yn wir.  Eitha cachu.

Reit, dydd nesa, doedd neb yn gweitho o gwbl.  Ble mae'r staff maes awyren?  Falle, r'on nhw meddwl bydde'r eira diflannu ar ei hunan.  Do'dd neb ddim yn gwybod beth odd yn digwydd.  O'r diwedd, nath Air Canada cyhoeddiad, gâth yr ehedfa eu cancelo nhw.

Wel, rhaid i mi galw Air Canada i cael ehedfa newydd.  Mwy lwc drwg.  Mewn pum dydd o'dd yr ehedfa nesa. Un noson arall, r'on ni wedi blino (sai'n ifanc yn wir), felly ffeindes i hotel ar-lein.  Eitha rhad, gweud y gwir.

Ar y fwrdd i'r hotel, torrodd y strap ar fy mag cyfrifiadur.  Ro'dd y cyfridiadur eitha beat-up ond gweithodd e o hyd.

Ro'dd y hotel yn llawn iawn.  Ro'dd pobl pobman i trio ffeindo ystafell.  Ar ol i fi checko yn yr hotel, sylwes i bod yr hotel yn codi pris gan pump waith.  Ofnadw am y pobl eraill.  Dim yn teg o gwbl!

Gweithes i ar y fideo fy nhad tra bod yn yr hotel.  R'on i wedi cyfweld fy Nhad am y hen stroriau Llangranog... yng Nghymraeg, wrth gwrs.  Nes i rhoi cerddoriaeth gyda'r fideo.  Pethe fel na.

Wel, dechreuodd y daith eitha cachu ond ro'dd gobaith da fi... yn sicr, bydde popeth yn gwella...

Anfodus, bydde lwc drwg yn cario ymla'n.

Y tro nesa, teithio o gwmpas Nghanada.


Da bo.

Ceri "Gwal"