Sai'n gwybod ond falle, oedd Ed y "Humstrung" Jones yn cyflwyno ei ffeithiau mewn ffordd mwy wyddonol. Eitha sych, eitha diflas, eitha pedantic. Ond mae celwydde llifo jyst dan y wyneb.
Un peth nath e, newid y tiwns yn ei lyfr yn sicr nath e, gyda trefniade eitha boring. A wedyn, nath e honiade eitha hurt. Pethe fel "This tune must come from the time of the Druids." Nath e hondiade heb dystiolaeth.
Ond, wrth gwrs, nath Iolo yr un peth mewn ffordd. Ond dyma'r gwahanol. Celfyddwr odd e. Cyfarwydd (ystoriwr), bardd ac athrylith odd e. Dyna'r peth. Gwedodd e lot o gelwydd. Ond jyst dan y wyneb odd y gwir. Odd e'n pwyntio i'r lleuad.
Ond ma'r ysgolheigion yn edrych ar y llaw Iolo. Mae nhw wedi ffaelu gweld y lleuad! Methu yn hollol. Nid ffugiwr odd e. Poethofaniwr odd e. Y Gof odd e.
Fel cerddor, fel ystoriwr, wy'n crymu y ffeithie, plygu hanner-cofion... am ddwy rheswm. Wel, fi'n treio cyfathrebu gyda phobl, mynegi rhywbeth am y bydysawd, bywyd, y cyflwr hiwman... Ond rhaid i mi gadw eu diddordeb yn gynta. Wy angen creu storie diddorol, cyffrous... tamed bach o ormodaeth. Ond fel y stori mynach Zen, wy'n pwyntio i'r lleuad. Rwy'n pwyntio i'r gwir. Gwir dwfn. Dim ond y llaw, dim ond geiriau... ond mae nhw'n cuddio'r gwir. Oherwydd bod pobl ddim yn gallu clywed y gwir. Ma hi'n rhy pur. Felly, mae'r mynach wedi cuddio y gwir yn y geiriau.
Na, dim cweit yn iawn. Dyw'r geiriau ddim yn gallu mynegi y gwir. Ond ma nhw'n gallu dangos y llwybr, y ffordd tuag at deall...
Dyna'r gwahanol. Fi di clywed rhai gerddorion sy'n gweud ffeithiau ond ma nhw'n gweud celwydd yn y cerddoriaeth. Ac fi di clywed rhai ohonyn nhw sy'n gweud storiau, peintio delwedde gyda lliwiau llachar, gormodaeth lliwgar... ond ma nhw'n gweud y gwir.
Man nhw'n chwarae gyda "soul". O'r galon.
Ch'wel? Chi'n deall?
Dyma'r gwahaniaeth rhwng Iolo ac Ed. Dyma'r gwahaniaeth rhwng Flea a Victor. Dyma'r gwahaniaeth rhwng Ceri "Ffliwt" a'r llall.
"Y Gwir yn erbyn y byd."
Siwr, pam lai...
Da bo.
Annwyl Gwdi Hw Y Nos,
ReplyDeleteRydyn ni’n ysgrifennu atoch chi achos bod ni’n datblygu prosiect newydd pwysig ynglŷn â’r iaith Gymraeg a hoffen ni gael eich help.
Mae prosiect Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC) yn brosiect uchelgeisiol a ddechreuodd yn swyddogol ar Fawrth 1af 2016 (gellir dod o hyd i fanylion pellach am hyn yma: sites.cardiff.ac.uk/corcencc/).
Os posib i chi gysylltu â mi ar WilliamsL10@cardiff.ac.uk er mwyn i mi yrru mwy o wybodaeth i chi?
Cofion cynnes,
Lowri Williams
CorCenCC Research Assistant | Cynorthwwydd Ymchwil CorCenCC
Cardiff University | Prifysgol Caerdydd