Tuesday 24 May 2011

abercych

Wi 'di anghofio llawer am y daith i Canada, felly, ma'n gwell da fi swennau am rhywbeth arall.  Wel... nes i chwarae gig dros y penwythnos ma.

Ro'n i'n braidd yn nerfys, gweud y gwir.  Ond heb rheswm.  Nes i chwarae gyda Elsa a Nettie.  Cerddorion anhygoel ydyn nhw.  Nethon nhw swnio yn wych!  Ro'n ni'n rhannu'r gig 'da Julie, Ceri "Ffliwt", Martin a Sille.  Wrth gwrs, ro'n nhw'n ffantastig dros ben.  Ma Simon wedi trefnu'r twmpath.  Ma fe 'di creu rhwybeth arbennig a bendigedig.  Oherwydd, ma fe'n cefnogi cymdeithas y pentre, trwy helpu pobl gwahanol cymysgu.  Rhwybeth unigryw yn y byd 'ma.

Wi'n siwr y bydda i'n swennu am y peth yn Sisneg ond wi moyn treio yng Nghymrâg hefyd.

Dyna'r peth.  Nid cerddor grêt ydw i.  Ond wi'n gallu clywed pethe yn y cerddoriaeth.  Dyna fy nhalent i.  Pan wi'n clywed y miwsig, wi'n gallu gweld i fewn i bobl.  I mewn i'w calon nhw.  Swnio od, wi'n gwybod.  Ond wi'n whilia y gwir nawr.  Wi'n gallu clywed y bwriad yn y cerddoriaeth.  Dyna'r rheswm wi'n wrth fy modd i chwarae gyda Julie, Ceri "Ffliwt", Martin, Sille, Diarmuid, Jason a phobl fel na... yr un peth 'da Elsa, Nettie a Gwil.  Oherwydd bod nhw'n pobl hardd iawn.  Ma cyswllt unigryw arbennig rhyngddon ni.

Maen nhw'n i gyd mwy creadigol, mwy onest, mwy mynegiadol, mwy dawnus, mwy prydferth... anodd i ddisgrifo.

Cymaint o gerddorion yn stiff iawn fel pren marw.  Ond mae fy ffrindiau yn hollol gwahanol.  Maen nhw'n byw.  Coed byw ydyn nhw.  Dyna'r gwahaniaeth.


Cynharach, ma grwp miwsig Aber wedi cyflogi athro o'r gogledd er mwyn dysgu alawon iddyn nhw.  Camgymeriad go iawn.  Dylen nhw bod wedi chwilio o'u blaen nhw a chyflogi Gwil.  Meistr cerddoriaeth Cymreig yw Gwil.  Os dyn nhw ddim yn gallu sylweddoli'r ffaith 'ma, heb cyfle ydyn nhw.


Ta beth, rodd y twmpath llwyddianus iawn.  Ro'dd llawer o bobl yn y neuadd.  Rodd y vibe yn anhygoel iawn.  Joies i'r gig mas draw!


Da bo.