Thursday 29 March 2012

Iolo Morgannwg v. Edward Jones

Rodd Edward Jones ag Iolo Morgannwg y dau yn caslgu pethe Cymreig yn y 1700s & 1800s.  Ma llawer o bobl yn nabod nhw.  Fel rheol, ma'r ysgolheigion yn enwi Iolo "forger".  Ma Edward yn well da nhw.  Ond hynny'w, oedd Ed yn gwaeth na Iolo fel "forger".  (Ffugiwr yw'r gair.)  Felly, pam ydyn nhw'n lico Ed cymaint?

Sai'n gwybod ond falle, oedd Ed y "Humstrung" Jones yn cyflwyno ei ffeithiau mewn ffordd mwy wyddonol.  Eitha sych, eitha diflas, eitha pedantic.  Ond mae celwydde llifo jyst dan y wyneb.
Un peth nath e, newid y tiwns yn ei lyfr yn sicr nath e, gyda trefniade eitha boring.  A wedyn, nath e honiade eitha hurt.  Pethe fel "This tune must come from the time of the Druids."  Nath e hondiade heb dystiolaeth.

Ond, wrth gwrs, nath Iolo yr un peth mewn ffordd.  Ond dyma'r gwahanol.  Celfyddwr odd e.  Cyfarwydd (ystoriwr), bardd ac athrylith odd e.  Dyna'r peth.  Gwedodd e lot o gelwydd.  Ond jyst dan y wyneb odd y gwir.  Odd e'n pwyntio i'r lleuad.

Ond ma'r ysgolheigion yn edrych ar y llaw Iolo.  Mae nhw wedi ffaelu gweld y lleuad!  Methu yn hollol.  Nid ffugiwr odd e.  Poethofaniwr odd e.  Y Gof odd e.


Fel cerddor, fel ystoriwr, wy'n crymu y ffeithie, plygu hanner-cofion... am ddwy rheswm.  Wel, fi'n treio cyfathrebu gyda phobl, mynegi rhywbeth am y bydysawd, bywyd, y cyflwr hiwman...  Ond rhaid i mi gadw eu diddordeb yn gynta.  Wy angen creu storie diddorol, cyffrous... tamed bach o ormodaeth.  Ond fel y stori mynach Zen, wy'n pwyntio i'r lleuad.   Rwy'n pwyntio i'r gwir.  Gwir dwfn.  Dim ond y llaw, dim ond geiriau... ond mae nhw'n cuddio'r gwir.  Oherwydd bod pobl ddim yn gallu clywed y gwir.  Ma hi'n rhy pur.  Felly, mae'r mynach wedi cuddio y gwir yn y geiriau.

Na, dim cweit yn iawn.  Dyw'r geiriau ddim yn gallu mynegi y gwir.  Ond ma nhw'n gallu dangos y llwybr, y ffordd tuag at deall...

Dyna'r gwahanol.  Fi di clywed rhai gerddorion sy'n gweud ffeithiau ond ma nhw'n gweud celwydd yn y cerddoriaeth.  Ac fi di clywed rhai ohonyn nhw sy'n gweud storiau, peintio delwedde gyda lliwiau llachar, gormodaeth lliwgar... ond ma nhw'n gweud y gwir.

Man nhw'n chwarae gyda "soul".  O'r galon.

Ch'wel?  Chi'n deall?



Dyma'r gwahaniaeth rhwng Iolo ac Ed.  Dyma'r gwahaniaeth rhwng Flea a Victor.  Dyma'r gwahaniaeth rhwng Ceri "Ffliwt" a'r llall.



"Y Gwir yn erbyn y byd."

Siwr, pam lai...


Da bo.