Thursday 25 August 2011

pethe

Rwy di bod yn teitho rownd Cymru lot yn diweddar.  Fi moyn sgrifennu rhywbeth ond sai'n siwr beth i weud.  Weithiau, wy'n gallu deall lot o Gymraeg, weithiau dim byd.  Mae'n dibynnu ar y sefyllfa, ar y acen, ar y person...  a mae'n anodd iawn i ffurfio brawddegau cywir.  Weithiau, wi'n teimlo twp iawn... ond peth pwysica yw trial.  T'wel?  Fi'n siarad Cymraeg ofnadw nawr ond wi'n treio o leia.  Dyna'r peth.

Wi di bod yn chwarae lot o dwmpathe.  Rhai da "Bethlehem Village Band", rhai da "A Llawer Mwy".  Wi'n mynd yn chwarae bedydd da Elsa y penwythnos ma.  Wi'n rili edrych ymlan i'r peth.  Elsa yw'r gorau.  Clefar yw hi.  Clefar iawn.  Rhwyfath o athrylith neu rhwybeth.  Ma hi di bod mwy dawel y wythnos ma.  Sai'n siwr beth sy'n bod.  Ta beth, ma hi'n person anhygoel a cerddor arbennig o dda.

Wi'n gweld eisiau Gwil, ofnadw.  Ma fe'n brysur dros ben.  Wedyn, ma ei gariad e, Ana, yn gadael Cymru.  Rhywbeth trist... ond siwr o fod, bydd yn profiad da... wel, profiad... Ta beth, ma Gwil wedi teitho lawr i Ferthyr er mwyn gweld hi.  Gobeitho bydd popeth yn iawn.

Wi'n colli chwarae gyda nhw... a Neti.  Fi di bod yn darllen am 'y band cymreig gwreiddiol' neu 'y cambrian minstrels gwreiddiol'.  Buon nhw'n byw yn y 1600's.  Robert Peilin Telynor, Lewis Penmon Crythor, Dic Pibydd a weithiau (cyn y dadl) Tomos Coety Cantor.  Wy'n gallu dychmygu nhw... teitho rownd Cymru gyda'i gilydd.  Breuddwyd.  Gweud y gwir, fi di bod yn gweitho (unwaith eto) ar y llawysgrif "Peroriaeth".  Hen cerddoriaeth a diddorol ofnadw.  Rhwyfath o obsession, t'mod?  Rwy am astudio'r llawysgrif mwy ac ail-greu y cerddoriaeth gyda offeryn arall, gyda band.

Wi'n mynd i chwarae da Julie ar y Dydd Sul ma.  Bydd yn profiad wych, siwr o fod.  Wi wrth fy modd pan fi'n chwarae da Julie.  Ma hi'n gwd iawn, iawn.  Fy hoff cantores yw hi.  Ma hi di bod yn gweitho ar miwsig gwreiddiol.  Wi'n balch iawn i chwarae da hi.

Ro'n i'n hango mas 'da fy ffrindiau Celtaidd dros y penwythnos diwetha.  Cerdded er mwyn codi arian i'r Urdd (Trefin i Dy Dewi).  Ro'dd hi'n bwrw glaw ofnadw.  Wlyb stêcs!  Wel, ro'dd e'n lot o sport.  Ma grwp yn hyfryd, pobl wych, t'mod.  A ro'n i'n siarad lot o Gymrâg.  Wedyn, ro'dd yn cyfle da i ymweld Ty Dewi unwaith eto.  Joies i'r penwythnos.  Ma pobl yn cyfeillgar, croesawgar, deallus... ma'n nis iawn.  Wi'n dwlu'r grwp.

Wel, na fe.  Fi di bod yn mynd i'r gwersi Cymraeg dros yr Haf.  Roedd e'n wych ond fi 'di blino nawr.


Ma flin da fi, wi di bod yn ramblo...


Oce, gobeitho na i synnwyr y tro nesa.  Gobitho, bydda i'n sgrifennu brawddegau cywir y tro nesa.


Da bo.



No comments:

Post a Comment